• ENG
  • CYM
  • Hafan
  • Categorïau
  • Enwebu
  • Noddwyr
  • Y Seremoni Wobrwyo
  • Hafan
  • Categorïau
  • Enwebu
  • Noddwyr
  • Y Seremoni Wobrwyo

01

Gwobrau
Gwobrau

Gwobrau Elusennau Cymru 2019

Gwobrau Elusennau Cymru 2019

02

Gwobrau newydd sbon yw Gwobrau Elusennau Cymru, a drefnir gan CGGC

Maent yn cydnabod ac yn dathlu cyfraniad arbennig elusennau, grwpiau cymunedol, cwmnïau dielw a gwirfoddolwyr at Gymru. O gyfeillachwyr sy’n galw heibio i ymweld â’u cymydog oedrannus bob dydd Mawrth, i fudiadau sy’n ymgyrchu dros gydraddoldeb yn genedlaethol, mae’r Gwobrau’n amlygu ac yn hyrwyddo’r gwahaniaeth positif y gallwn ei wneud ym mywydau ein gilydd.

Felly os gwyddech am fudiad neu unigolyn sy’n haeddu cael ei ddathlu, ewch amdani ac enwebwch heddiw.

Enwebwch heddiw

Dyddiadau allweddol 2019

Cyfnod enwebu’n agor  – – 5 Awst 2019

Cyfnod enwebu’n cau – 2 Hydref 2019

Cyhoeddi’r rhestr fer – w/d 21 Hydref 2019

Y seremoni wobrwyo – 15 Tachwedd 2019

03

Noddir yn garedig gan:

Os oes gennych ddiddordeb mewn cyfleoedd noddi yng Ngwobrau Elusennau Cymru cysylltwch â Kate Gobir, Swyddog Aelodaeth a Digwyddiadau CGGC, drwy ffonio 029 2043 1724

04

Enwebu

Ni allai fod yn haws enwebu. Dyma 4 cam syml:

1. Darllen y rheolau yn drylwyr

2. Dewis y categori isod yr hoffech enwebu ynddo

3. Llenwi’r ffurflen enwebu ar gyfer y categori yr ydych yn enwebu ynddo

4. Anfon eich enwebiad atom (gwobrau@wcva.cymru) erbyn 5pm ar 2 Hydref 2019

05

Categorïau

Eleni, ceir 9 categori i enwebu ynddynt yng Ngwobrau Elusennau Cymru:

Gwobr ysgogi newid (ymgyrchu a chyfathrebu)

Bydd y wobr hon yn mynd i grŵp neu fudiad sydd wedi defnyddio dull cyfathrebu effeithiol i lobïo dros newid yn y gyfraith, ysgogi newid positif yn ymddygiad pobl neu weddnewid eu hardal leol. Bydd yr enwebiad buddugol yn y categori hwn yn dangos y newid positif sydd wedi bod o ganlyniad i’r gwaith cyfathrebu neu ymgyrchu yn ogystal â dangos sut y gwnaeth gweithredoedd y grŵp neu’r mudiad greu’r newid hwnnw.

Lawrlwythwch y ffurflen

Gwobr ymddiriedolwyr rhagorol

Bydd y wobr hon yn mynd i fudiad y mae ei ymddiriedolwyr wedi arddangos arweinyddiaeth ragorol i sicrhau bod amcanion y mudiad yn cael eu cyflawni’n effeithiol drwy gydweithio fel tîm effeithiol. Bydd yr enwebiad buddugol yn arddangos arweinyddiaeth, uniondeb, y broses benderfynu, effeithiolrwydd y bwrdd, amrywiaeth ac atebolrwydd y tîm ymddiriedolwyr.

Lawrlwythwch y ffurflen

Gwobr am y defnydd gorau o’r Gymraeg

Bydd y wobr hon yn mynd i fudiad neu grŵp a all ddangos ymdrech arbennig i gynyddu a/neu wella darpariaeth eu gwasanaeth(au) yn Gymraeg. Bydd yr enwebiad buddugol yn dangos yn effeithiol sut maent wedi ystyried anghenion defnyddwyr eu gwasanaeth ac wedi arloesi i oresgyn rhai o’r heriau maent wedi’u hwynebu wrth gynnig gwasanaeth Cymraeg. Bydd hefyd yn egluro sut mae profiad defnyddwyr y gwasanaeth wedi gwella drwy ddarparu gwasanaethau Cymraeg.

Lawrlwythwch y ffurflen

Gwobr Cynnwys y Gymuned

Bydd y wobr hon yn cydnabod prosiect a ariannwyd yn y 25 mlynedd diwethaf gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, sydd wedi galluogi’r gymuned i ffynnu drwy ei chynnwys yn y prosiect. Bydd y prosiect buddugol yn dangos bod llwyddiant y prosiect yn cael ei arwain gan ymwneud yn ystyrlon ac yn gyson â’r gymuned, gan roi lle blaenllaw i bobl wrth ddylunio, datblygu a darparu’r prosiect. Bydd yr enwebiad buddugol yn dangos sut yr aethant ati i gynnwys pobl a’r gymuned ehangach yn eu gweithgareddau yn ogystal â dangos y newidiadau positif a fu o ganlyniad uniongyrchol i’r gweithgareddau a gynhaliwyd ganddynt.

Lawrlwythwch y ffurflen

Gwobr Elusen Ffyniannus

Bydd y wobr hon yn mynd i grŵp neu fudiad sydd wedi addasu neu ddiweddaru’r gwasanaeth mae’n ei ddarparu, ei arfer(ion) creu incwm a/neu ei brosesau mewnol i ddod yn llawer mwy cynaliadwy a chydnerth. Bydd y mudiad buddugol wedi mynd ati i feddwl yn strategol am y ffordd y mae’r mudiad yn cael ei reoli, er mwyn addasu a pharatoi’n well ar gyfer y newidiadau cymdeithasol ac economaidd sy’n wynebu’r trydydd sector yng Nghymru a’r tu hwnt.

Lawrlwythwch y ffurflen

Gwobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn (gwirfoddolwyr 26 oed neu hŷn)

Bydd y wobr hon yn mynd i unigolyn eithriadol sy’n gwneud cyfraniad arbennig iawn at y gymuned neu’r amgylchedd drwy wirfoddoli. Gall fod y gwirfoddolwr sy’n arwain ac yn ysbrydoli eraill, neu sy’n ymdrechu’n ddiflino i ‘fynd â’r maen i’r wal’, neu gall fod yr un y tu ôl i’r llenni sy’n dal popeth gyda’i gilydd. Bydd y categori hwn yn canolbwyntio ar y gwahaniaeth positif sydd wedi’i gyflawni, yn hytrach nag ar am faint o amser y mae rhywun wedi bod yn gwirfoddoli. Bydd yr enwebiad buddugol yn dangos y newid sy’n deillio o gyfraniad gwirfoddol unigolyn a allai fod effaith y gwirfoddolwr ar fuddiolwyr, y gymuned neu’r amgylchedd neu’r effaith ar wirfoddolwyr eraill neu staff.

Lawrlwythwch y ffurflen

Gwobr Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn (gwirfoddolwyr 25 oed neu iau)

Bydd y wobr hon yn mynd i wirfoddolwr ifanc sy’n cynnig egni ychwanegol, yn ysbrydoli ac yn ysgogi eraill ac yn rym deinamig dros newid. Bydd yr enwebiad buddugol yn dangos y newid sy’n deillio o gyfraniad gwirfoddol person ifanc a allai fod effaith y gwirfoddolwr ar fuddiolwyr, y gymuned neu’r amgylchedd neu’r effaith ar wirfoddolwyr eraill neu staff.

Lawrlwythwch y ffurflen

Gwobr Gweithredu Cymunedol/Tîm Gwirfoddol y Flwyddyn

Bydd y wobr hon yn mynd i grŵp neu dîm o wirfoddolwyr sy’n dangos grym cydweithio. Bydd yr enwebiad buddugol yn dangos y newid positif y gellir ei briodoli i weithredoedd y grŵp a’r budd hirdymor o ganlyniad i’r hyn a wnaethant.

Lawrlwythwch y ffurflen

Mudiad y Flwyddyn

Bydd y wobr hon yn mynd i fudiad rhagorol sydd wedi cyflawni llawer iawn yn y flwyddyn ddiwethaf ac y mae eraill yn y sector yn ei barchu a’i edmygu. Bydd yr enwebiad yn dangos sut mae’r mudiad wedi cyflawni ei amcanion drwy arloesi ac yn amlygu’r effaith bositif y mae wedi’i chael ar ddefnyddwyr ei wasanaethau, gan newid bywydau er gwell.

Lawrlwythwch y ffurflen

06

Awards Ceremony

Lorem ipsum dolor sit amet, consectetuer adipiscing elit sed diam

Lorem ipsum dolor sit amet, consectetuer adipiscing elit, sed diam nonummy nibh euismod tincidunt ut laoreet dolore magna aliquam erat volutpat. Ut wisi enim ad minim veniam, quis nostrud exerci tation ullamcorper suscipit lobortis nisl ut aliquip ex ea commodo consequat.

Duis autem vel eum iriure dolor in hendrerit in vulputate velit esse molestie consequat, vel illum dolore eu feugiat nulla facilisis at vero eros et accumsan et iusto odio dignissim qui blandit praesent luptatum zzril delenit augue duis dolore.

Lorem ipsum dolor sit amet, consectetuer adipiscing elit, sed diam nonummy nibh euismod tincidunt ut laoreet dolore magna aliquam erat volutpat. Ut wisi enim ad minim veniam, quis nostrud exerci tation ullamcorper suscipit lobortis nisl ut aliquip ex ea commodo consequat. Duis autem vel eum iriure dolor in hendrerit in vulputate velit esse molestie consequat, vel illum dolore eu feugiat nulla facilisis at vero eros et accumsan et iusto odio dignissim qui blandit praesent luptatum zzril delenit augue duis dolore te feugait nulla facilisi.

07

Rheolau

Sicrhewch eich bod yn darllen ac yn deall y rheolau isod cyn enwebu:

  • Rhaid i enwebiadau ein cyrraedd erbyn 5pm ar 2 Hydref 2019
  • Dim ond un enwebiad y gellir ei wneud ar yr un ffurflen gais.
  • Dim ond un enwebai neu grŵp y gallwch ei enwebu ym mhob categori.
  • Rhaid i fudiadau a grwpiau a enwebir fod wedi’u lleoli neu ar waith yng Nghymru.
  • Rhaid i wirfoddolwyr a enwebir naill ai fod yn byw yng Nghymru neu’n gwirfoddoli yng Nghymru.
  • Croesawn enwebiadau ar gyfer unigolion a grwpiau sy’n gwirfoddoli dramor i fudiad rhyngwladol sydd wedi’i leoli yng Nghymru.
  • Rhaid cael caniatâd prif weithredwr/cyfarwyddwr neu gadeirydd y mudiad a enwebir.
  • Rhaid cael caniatâd y gwirfoddolwr neu’r grŵp o wirfoddolwyr cyn anfon yr enwebiad.
  • Rhaid i bob ateb ymwneud â gweithgarwch diweddar (y ddwy flynedd diwethaf).
  • Mae penderfyniad y beirniaid ynglŷn ag enwebiadau yn derfynol. Mae’r beirniaid yn cadw’r hawl i beidio â rhoi gwobr mewn categori os ydynt yn teimlo nad yw’r enwebiadau yn addas.
  • Penderfyniad CGGC yw natur y gwobrau a gyflwynir. Nid ystyrir gwobrau amgen.
  • Gall manylion a ddarperir ar y ffurflen enwebu gael eu hanfon ymlaen i bartner-fudiadau a’r cyfryngau er dibenion cyhoeddusrwydd. Os nad ydych am i unrhyw wybodaeth gael ei rhannu yn y ffordd hon neu os nad ydych am i fudiadau’r cyfryngau gysylltu â’r mudiad a enwebir neu’r enwebydd, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosib. 

08

Beirniadu

Caiff y Gwobrau eu beirniadu gan banel o arbenigwyr, pob un â phrofiad gwahanol ond perthnasol ar draws nifer o’r categorïau. 

Mae’r beirniaid yn asesu’r enwebiadau yn ôl y meini prawf a nodir ar y ffurflenni enwebu.

Trefnir gan
wcva.cymru
Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol
  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
  • YouTube

© WCVA 2019 | Elusen gofrestredig 218093 | Cwmni cyfyngedig drwy warant 425299 | Cofrestrwyd yng Nghymru

Gwybodaeth gyfreithiol | Datganiad hygyrchedd | Diogelu data | Telerau ac amodau | Hysbysiad preifatrwydd | Cwcis | Map o’r wefan