





Gwobrau Elusennau
Cymru 2022
Mae Gwobrau Elusennau Cymru yn ôl!
Mae Gwobrau Elusennau Cymru, a drefnir gan CGGC, yn cydnabod ac yn dathlu’r cyfraniad gwych y mae elusennau, grwpiau cymunedol, mudiadau dielw a gwirfoddolwyr yn ei wneud i Gymru drwy amlygu a hyrwyddo’r gwahaniaeth cadarnhaol y gallwn ei wneud i fywydau ein gilydd.
Mae’n bleser gennym gyhoeddi mai ITV Cymru Wales yw’n partner cyfryngau swyddogol ar gyfer gwobrau 2022.
Llongyfarchiadau i enillwyr 2022 Gwobrau Elusennau Cymru
Llongyfarchiadau enfawr i’r holl enillwyr, a diolch yn fawr i bawb a wnaeth enwebiad ar gyfer Gwobrau Elusennau Cymru eleni. Cafodd y beirniaid eu syfrdanu gan yr holl straeon anhygoel am y pethau wirioneddol wych y mae pobl a mudiadau yn eu gwneud yng Nghymru, diolch am bopeth!
- Enillwyr
Gwobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn (gwirfoddolwyr 26 oed neu hŷn) - wedi’i noddi gan Keegand & Pennykid

Andrew Coppin
Dynion Cerdded Canolbarth Cymru
Cafodd Andrew clod mawr am ei gyfraniad arbennig i iechyd meddwl dynion. Gyda lefelau hunanladdiad dynion yn cynyddu yn ardal y Drenewydd a’r Trallwng, penderfynodd Andrew sefydlu grŵp cerdded a siarad i gefnogi dynion bregus. Ers hynny mae wedi dechrau grŵp cymysg, sydd wedi bod yn fendith i lawer o bobl yn ei gymuned.
Gwobr Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn (gwirfoddolwyr 25 oed neu iau) - wedi’i noddi gan Hugh James

Triniaeth Deg i Ferched Cymru (FTWW)
Cafodd Rachel ei chydnabod am ei heiriolaeth angerddol dros gyd-gleifion endometriosis a menywod anabl â salwch cronig yng Nghymru. Mae wedi gwneud cyfraniad arbennig iawn i ymgyrchu FTWW, gan ddefnyddio ei phrofiad bywyd i wella mynediad i ofal iechyd menywod ac addysg iechyd benywaidd yng Nghymru.
Arloeswyr digidol - wedi’i noddi gan Salesforce

Enillodd Innovate Trust y wobr am eu app ‘Insight’ unigryw, sydd wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl â anableddau dysgu. Yn hollol rhad ac am ddim, mae wedi torri tir newydd i’r elusen, gan gynyddu eu hymgysylltiad 500% i 1,600 o bobl yng Nghymru ac ar draws y DU.
Llesiant yng Nghymru - wedi’i noddi gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru

Mae Cariad Pet Therapy wedi llwyddo trawsnewid lles meddyliol amrywiaeth o gymunedau ar draws de orllewin Cymru, ac mae ganddynt gynlluniau i ehangu i ogledd Cymru erbyn 2022/23. Maent yn cynnig cymorth sy’n newid bywydau i gymunedau drwy 80 o dimau cŵn therapi, banciau bwyd anifeiliaid anwes, prosiect cyflogadwyedd cynhwysiant gweithredol a 60 o anifeiliaid anwes robotiaid.
Mudiad y Flwyddyn - wedi’i noddi gan y SCG

Fel mudiad gwirioneddol ragorol, mae’r Urdd wedi cyflawni llawer iawn ym mlwyddyn ei ganmlwyddiant, ac wedi dod yn flaengar i bobl ifanc ledled Cymru. Mae’r gwaith ffoaduriaid wedi cael llawer iawn o ganmoliaeth ac wedi bod o fudd i 250 o Wcráiniaid a 110 o Affganiaid. Ymhlith llwyddiannau niferus yr Urdd, mae’r elusen wedi cynnig aelodaet am £1 i blant o deuluoedd incwm isel (yn lle £10), wedi cofnodi niferoed uchaf erioed yn Eisteddfod yr Urdd (yn Sir Ddinbych), ac wedi trefnu y gynhadledd gyntaf erioed ledled Cymru ar gyfer merched mewn chwaraeon.
Dyddiadau allweddol 2022
- Cyfnod enwebu’n agor - 4 Awst 2022
- Cyfnod enwebu’n cau - 27 Medi 2022
- Bydd enillwyr yn derbyn hysbysiad - wythnos yn dechrau 10 Hydref 2022
- Derbyniad yr enillwyr yn Stiwdios ITV Cymru Wales Caerdydd - 22 Tachwedd 2022
- Bydd yr enillwyr yn ymddangos ar newyddion ITV Cymru Wales am 6 pm yn ystod Wythnos Elusennau Cymru (21-25 Tachwedd 2022)
- Categoriau
Gallwch enwebu mewn pum categori yng Ngwobrau Elusennau Cymru:
Gwobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn (gwirfoddolwyr 26 oed neu hŷn) - wedi’i noddi gan Keegand & Pennykid

Bydd y wobr hon yn mynd i unigolyn eithriadol sy’n gwneud cyfraniad arbennig iawn at y gymuned neu’r amgylchedd drwy wirfoddoli. Gall fod y gwirfoddolwr sy’n arwain ac yn ysbrydoli eraill, neu sy’n ymdrechu’n ddiflino i ‘fynd â’r maen i’r wal’, neu gall fod yr un y tu ôl i’r llenni sy’n dal popeth gyda’i gilydd. Bydd y categori hwn yn canolbwyntio ar y gwahaniaeth positif sydd wedi’i gyflawni, yn hytrach nag ar am faint o amser y mae rhywun wedi bod yn gwirfoddoli. Bydd yr enwebiad buddugol yn dangos y newid sy’n deillio o gyfraniad gwirfoddol unigolyn a allai fod effaith y gwirfoddolwr ar fuddiolwyr, y gymuned neu’r amgylchedd neu’r effaith ar wirfoddolwyr eraill neu staff.
Gwobr Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn (gwirfoddolwyr 25 oed neu iau) - wedi’i noddi gan Hugh James

Bydd y wobr hon yn mynd i wirfoddolwr ifanc sy’n cynnig egni ychwanegol, yn ysbrydoli ac yn ysgogi eraill ac yn rym deinamig dros newid. Bydd yr enwebiad buddugol yn dangos y newid sy’n deillio o gyfraniad gwirfoddol person ifanc a allai fod effaith y gwirfoddolwr ar fuddiolwyr, y gymuned neu’r amgylchedd neu’r effaith ar wirfoddolwyr eraill neu staff.
Arloeswyr digidol - wedi’i noddi gan Salesforce

Llesiant yng Nghymru - wedi’i noddi gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru

Bydd y wobr hon yn cael ei chyflwyno i grŵp neu fudiad sydd wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’w cymuned drwy wella lles meddyliol a/neu gorfforol. Bydd y cais buddugol yn dangos y newid cadarnhaol yn llesiant eu cymuned neu gymdeithas ehangach o ganlyniad i’w camau gweithredu. Bydd hefyd yn amlygu eu dull arloesol o wella llesiant.
Mudiad y Flwyddyn - wedi’i noddi gan y SCG

Bydd y wobr hon yn mynd i fudiad rhagorol sydd wedi cyflawni llawer iawn yn y flwyddyn ddiwethaf ac y mae eraill yn y sector yn ei barchu a’i edmygu. Bydd yr enwebiad yn dangos sut mae’r mudiad wedi cyflawni ei amcanion drwy arloesi ac yn amlygu’r effaith bositif y mae wedi’i chael ar ddefnyddwyr ei wasanaethau, gan newid bywydau er gwell.
- Enwebu
Ni allai fod yn haws enwebu. Dyma 4 cam syml:
- Darllen y rheolau yn drylwyr
- Dewis y categori isod yr hoffech enwebu ynddo
- Cwblhewch y ffurflen enwebu ar-lein
- Anfon eich enwebiad atom (gwobrau@wcva.cymru) erbyn 5pm ar 27 Medi 2022
- Rhaid i enwebiadau ein cyrraedd erbyn 5pm ar 27 Medi 2022.
- Dim ond un enwebiad y gellir ei wneud ar yr un ffurflen gais.
- Dim ond un enwebai neu grŵp y gallwch ei enwebu ym mhob categori.
- Rhaid i fudiadau a grŵpiau a enwebir fod wedi’u lleoli neu ar waith yng Nghymru.
- Rhaid i wirfoddolwyr a enwebir naill ai fod yn byw yng Nghymru neu’n gwirfoddoli yng Nghymru.
- Croesawn enwebiadau ar gyfer unigolion a grŵpiau sy’n gwirfoddoli dramor i fudiad rhyngwladol sydd wedi’i leoli yng Nghymru.
- Rhaid cael caniatâd prif weithredwr/cyfarwyddwr neu gadeirydd y mudiad a enwebir.
- Rhaid cael caniatâd y gwirfoddolwr neu’r grŵp o wirfoddolwyr cyn anfon yr enwebiad.
- Rhaid i bob ateb ymwneud â gweithgarwch diweddar (y ddwy flynedd diwethaf).
- Mae penderfyniad y beirniaid ynglŷn ag enwebiadau yn derfynol. Mae’r beirniaid yn cadw’r hawl i beidio â rhoi gwobr mewn categori os ydynt yn teimlo nad yw’r enwebiadau yn addas.
- Penderfyniad CGGC yw natur y gwobrau a gyflwynir. Nid ystyrir gwobrau amgen.
- Gall manylion a ddarperir ar y ffurflen enwebu gael eu hanfon ymlaen i bartner-fudiadau a’r cyfryngau er dibenion cyhoeddusrwydd. Os nad ydych am i unrhyw wybodaeth gael ei rhannu yn y ffordd hon neu os nad ydych am i fudiadau’r cyfryngau gysylltu â’r mudiad a enwebir neu’r enwebydd, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosib.
- Noddwyr






- Judging
The Awards are judged by a panel of experts, each with different but relevant experience across several of the categories.
The judges assess the nominations against the criteria set out in the nomination forms.
Welsh Charity Awards judges for 2022:
[Photo and short description about each judge]